Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2023
Amser:
09.31 -
11.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13167
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rosemary Hill (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu adroddiad gwerthuso interim i’r Pwyllgor ar y cynllun peilot brecwast am ddim i blant Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - trafod y dystiolaeth
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.